Diben Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yw hybu’r arfer o fod yn agored ac yn atebol ledled y sector cyhoeddus. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl i unigolion ofyn am wybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r Brifysgol sicrhau bod y wybodaeth ar gael, oni bai bod eithriadau ar waith.
Dan y Ddeddf, mae'n ofynnol i'r Brifysgol gynhyrchu a chynnal Cynllun Cyhoeddi sy'n nodi'r wybodaeth sydd ar gael fel mater o drefn. Gellir dod o hyd i lawer o'r wybodaeth hon ar wefan y Brifysgol.
Os nad yw'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gael yn y CynllunCyhoeddi, gallwch anfon eich cais yn ysgrifenedig at:
Y Rheolwr Cydymffurfiaeth Gwybodaeth,
Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol
Prifysgol De Cymru
Pontypridd
CF37 1DL
Neu drwy e-bost i: [email protected]
Cwynion yn ymwneud â Rhyddid Gwybodaeth
Nod y Brifysgol yw darparu gwasanaeth o safon uchel i bawb y mae'n delio â nhw. Weithiau, fodd bynnag, am amryw o resymau, nid yw hyn yn digwydd ac nid yw'r Brifysgol yn cyrraedd y nodau mae’n eu gosod iddi ei hun. Os bydd hyn yn digwydd hoffai'r Brifysgol glywed gennych er mwyn iddi roi camau gweithredu ar waith i unioni'r sefyllfa.
Y Cynllun Cyhoeddi
Mae'n bwysig bod cynllun cyhoeddi'r Brifysgol yn diwallu'ch anghenion. Os ydych yn ei chael hi'n anodd deall y cynllun, rhowch wybod i ni. Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ynghylch sut gellid gwella'r cynllun. Gallwch gyflwyno unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y cynllun trwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod neu anfon e-bost atom i [email protected].
Delio â Cheisiadau
Dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae gennych rai hawliau i adolygu penderfyniad gan y Brifysgol yn ymwneud â chais am wybodaeth os ydych chi'n anfodlon â'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais. Gellir gweithredu’r hawliau hyn drwy ddwy broses adolygu. Yn gyntaf, drwy ddefnyddio'r weithdrefn gwynion y mae manylion amdani isod; yn ail trwy wneud cais yn uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Sylwer: Cyn apelio i'r Comisiynydd Gwybodaeth dylid cwblhau gweithdrefn gwynion fewnol y Brifysgol.
Cam 1: Beth ddylwn ei wneud os nad wyf yn fodlon gyda gwasanaeth rwyf wedi ei dderbyn?
Os ydych am wneud cwyn, ysgrifennwch at y Brifysgol i’r cyfeiriad isod:
Mr William Callaway,
Prifysgol De Cymru
Pontypridd
CF37 1DL
e-bost: [email protected]
Os na ellir datrys eich problem yn syth bydd y swyddog â chyfrifoldeb yn eich hysbysu faint o amser y gallwch ddisgwyl aros. Nod y Brifysgol yw ymateb i'ch cwyn a darparu ymateb llawn o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith. Os yw'ch cwyn yn un ddyrys, efallai y bydd angen mwy o amser i ymchwilio. Os bydd hyn yn wir, cewch esboniad pam a phryd y gallwch ddisgwyl ymateb.
Cam 2: Beth ddylwn ei wneud os nad wyf yn fodlon â chanlyniad Cam 1?
Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb i gŵyn gallwch ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth ymchwilio i'r mater yn ôl ei ddisgresiwn ei hun:
Ym unol ag Adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu'r Cynllun Cyhoeddi a baratowyd ac a gymeradwywyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth heb ei addasu.
Mae'r Brifysgol wedi dilyn Dogfen Ddiffinio’r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer Prifysgolion wrth nodi'r wybodaeth y mae’n sicrhau ei bod ar gael, yn unol â'r Cynllun Cyhoeddi..
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw ac i sicrhau bod y mathau canlynol o wybodaeth ar gael i'r cyhoedd.
Mae Cynllun Cyhoeddi Prifysgol De Cymru ar gael yma i’w ddarllen/lawrlwytho.
Mae gwybodaeth na fydd yn cael ei darparu dan y Cynllun yn cynnwys:
Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch drwy’r wefan, e-bostiwch [email protected] neu ysgrifennwch at:
Y Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth
Prifysgol De Cymru
Pontypridd
CF37 1DL