Hawliau Unigolion

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan unigolion hawliau penodol sy'n ymwneud a'r ffordd y mae'r Brifysgol yn prosesu eu data personol.  Gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn 'Nghanllaw Hawliau i Unigolion'.  Islaw ceir trosolwg byr o'r hawliau'r unigolyn.

  • Yr hawl i wybodaeth - Yn unol ag egwyddor prosesu teg a chyfreithlon, mae gan unigolion yr hawl i gael eu hysbysu am gasglu a defnyddio eu data personol.  Darperir hysbysiadau preifatrwydd yn y man lle cesglir data personol a gellir dod o hyd i nifer o hysbysiadau unigryw are ein tudalennau we.
  • Hawl i gael mynediad i ddata - Mae gan unigolion hawl i weld a cael copi o eu data personol a gedwir gan y Brifysgol.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllawiau 'Mynediad i ddata'.
  • Yr hawl i wirio gwallau - Mae gan unigolion yr hawl i ofyn i'r Brifysgol gwirio gwallau sy'n cynnwys data personol a gedwir amdanynt.  Gellir cael mwy o wybodaeth yn ein 'Canllaw Hawliau Unigol'.  
  • Hawl i ddileu data - Mae'r hawl i anghofio yn golygu bod gan unigolion y gallu i gael gwared ar ddata personol data nad oes reswm cymellol i'w ddal.  
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu - Mewn rhai amgylchiadau, gall unigolion ofyn i'r Brifysgol gyfyngu neu atal y ffordd y mae nhw yn prosesu gwybodaeth.  
  • Hawl i gludo data - Mae gan unigolion yr hawl i ofyn am eu data mewn fformat penodol a fydd yn eu galluogi i drosglwyddo'r wybodaeth o un rheolydd data i un arall.  
  • Hawl i wrthwynebu - Mae gan unigolion yr hawl i wrthwynebu prosesu eu data mewn sefyllfaoedd pellach.